Noswaith dda a chroeso i flog byw Cymru v Bosnia-Herzegovina. Owain Schiavone sydd yma efo chi
heno, arhoswch efo fi am y diweddaraf o Stadiwm Dinas Caerdydd.

Sgôr terfynol Cymru 0 – 0 Bosnia-Herzegovina

21:39 – Diolch yn fawr iawn am eich cwmni ar y Blog Byw heno. Gallwch ddilyn blog byw eto nos Lun wrth i Gymru herio Cyprus.

21:38 – Bydd Cymru’n siomedig i beidio manteisio ar rai o’u cyfleoedd heno, ond mae’n siŵr bod gêm gyfartal yn weddol deg. Awyrgylch gwych yn y stadiwm heno, a theimlad gwirioneddol o gyffro ar gyfer yr ymgyrch.

21:36 – Un cyfle arall i Gymru o’r gic gornel yn dilyn rhediad ac ergyd Bale, ond yn methu manteisio. Di-sgôr yma ar y chwiban olaf felly, ond gêm dda.

21:34 – Bale a rhediad da ac ergyd wych ar draws gôl yn cael ei harbed. Agos!

21:29 – Robson-Kanu’n bygwth gydag ergyd, ac yn cael ei gwyro am gornel.

21:27 – Mae’r dorf yn hoffi George – pawb ar eu traed wrth iddo fynd ar rediad ar y chwith. Y cefnogwyr yn gobeithio y bydd yn rhoi hwb i Gymru fel y gwnaeth ar ôl dod i’r maes yn erbyn Andorra.

21:24 – Rhediad gorau Bale o’r gem, ond yn gorfod ergydio ar ei droed dde a’r golwr yn arbed yn gyfforddus ond mae’r dorf wedi cyffroi – mae’n swnllyd rŵan! Mae George Williams newydd ddod i’r cae yn lle Joniesta.

21:22 – Cic rydd arbennig gan Medunjanin yn gorfodi Hennessey i wneud arbediad gwych. Hennessey eto’n brysur o’r gic gornel, ond yn llwyddo i glirio gyda’i ddwrn

21:20 – Newydd gyhoeddi maint y dorf, 30,741

21:20 – Cyfle ardderchog i Ashley Williams yn y postyn pellaf o gic rydd Bale, ond yn methu penio’n lân. Cyfle gorau Cymru hyd yn hyn o bosib.

21:19 – Cymru’n chwilio am y bêl hir i Bale trwy’r amser rŵan. Dwi ddim yn siŵr os mai dyna’r dacteg orau – pasio chwim sydd wedi achosi problemau hyd yn hyn.

21:16 – Mae ’na stiwardio trwm yn ardal y cefnogwyr sy’n teithio ar hyn o bryd a mwy ar y ffordd draw. Maen nhw’n cadw digon o sŵn, ond heb sylwi ar ddim trafferth…er, mae ambell un wedi tynnu ei crysau, sy’n drosedd ynddo’i hun!

21:15 – Mae Dzeko wedi bod yn cwyno fel babi blwydd trwy’r nos heno, a doedd o ddim yn hapus gyda’i gerdyn. Tybed ydy Man City wedi anghofio ei ben-blwydd?

21:12 – Y dorf a chwaraewyr wedi ei cythruddo wrth i Chester daclo Besic yn gadarn ar yr hanner. Y dorf a chwaraewyr Cymru ddim yn hapus i weld cerdyn felen i Chester, ac mae ’na chydig o ‘handbags. Y ddau gapten yn gweld cerdyn felen am eu protestiadau.

21:11 – Mae’n ymddangos bod Bale yn chwarae fel ymosodwr pur bellach a Robson-Kanu ar yr asgell chwith.

21:07 – Mae Robson-Kanu bellach ar y cae yn lle Church sydd wedi rhoi shifft dda i’w wlad unwaith eto. Mae George Williams yn cynhesu ers peth amser hefyd, tybed fyddwn ni’n gweld asgellwr Fulham yn fuan?

21:06 – Symudiad da gan Gymru’n chwarae o’r amddiffyn. Joniesta a Bale yn cyfuno’n dda a chroesiad Bale yn wych i’r postyn pellaf, a’r amddyffynwr yn ildio cic gornel.

21:05 – Mae Robson-Kanu yn paratoi i ddod i’r cae. Yn lle Church efallai?

21:01 – Mae’r stretsier yn dod i’r cael i Joniesta, ond y dorf yn falch o’i weld yn cerdded i’r ystlys. Doedd hi ddim hyd yn oed yn gic rydd i Gymru – yr amddiffynwr yn ennill y bêl ac yn dal Williams wedyn.

20:59 – Wwww, tacl galed arall ar Jonathan Williams druan – mae o’n cael noson galed.

20:57 – Taylor yn rhy araf i’r bêl ar y linell hanner a Mujdza’n edrych fel ei fod am dorri’n rhydd, ond Taylor yn amlwg wedi ei gyffwrdd ac mae’n disgyn i’r llawr. Cerdyn felen i gefnwr chwith Cymru.

20:55 – Bosnia sy’n gwneud yr ymosod i gyd ar hyn o bryd. Ergyd arall dda o bell i Medunjanin, a Hennessey’n gorfod arbed i’w dde. All Cymru wrthsefyll hyn llawer hirach?

20:49 – Rhyfelgyrch Gŵyl Harlech (wel, y fersiwn dy dy dy’s) yn atseinio o Eisteddle Canton ar ddechrau’r ail hanner. Cyfle i Bosnia yn fana, ond Hennessey yn arbed a Chymru’n gwrth-ymosod trwy Bale. Mae’n cael ei lorio, ond yn gyfreithlon yn ôl y dyfarnwr.

20:45 – Yr ail hanner yn dechrau. Y farn gyffredinol ymysg y wasg  nes i siarad efo nhw ar yr hanner oedd bod Cymru’n edrych yn gyfforddus, a Bosnia ddim yn ei ffansio hi. Cawn weld yn yr ail hanner.

20:30 – Dyna hi, hanner amser yma yn Stadiwm Dinas Caerdydd, a hanner cyntaf digon cyfartal. Mae ’na griw o ‘freestylers’ newydd ddod i’r cae … bydd hyn yn ddiddorol!

20:29 – Tîm Bosnia’n gofyn am gic o’r smotyn…ac roedd hi’n edrych yn agos o fan hyn, ond y dyfarnwr yn eu hanwybyddu. Yr ymwelwyr sy’n pwyso cyn yr hanner, a’r dorf yn synhwyro hynny ac yn annog Cymru.

20:26 – Chwarae teg, mae Simon Church yn rhedeg ei … ahem, sanau bach coch i ffwrdd, a ddim yn cael llawer o wobr am ei ymdrech.

20:23 – Cefnogwyr yr ymwelwyr yn codi llais i’r dde i mi…a chriw eisteddle Canton yn ymateb i’w boddi.

20:18 – Diddorol gweld Bale yn gofyn i’r dyfarnwr cynorthwyol gadw golwg ar Besic. Mae’n ymddangos bod Besic wedi cael y job o gadw Bale yn dawel ac yn ei ddilyn fel cysgod – Gareth yn amlwg yn teimlo ei fod yn ei farcio braidd yn rhy dynn! Maen nhw’n cicio lympiau allan o Joniesta ar hyn o  bryd – ail drosedd arno mewn dwy funud.

20:17 – Rhwystredig braidd i Gymru ar hyn o bryd wrth i’r ymwelwyr reoli’r meddiant. Pjanic newydd weld carden felen am drosedd gas ar Joniesta bach.

20:14 – Bron hanner awr i mewn i’r gêm ac alaw gyfarwydd ‘I love you baby’ yn dechrau llifo o eisteddle Canton. Mae’r dorf mewn llais da.

20:12 – Mae’n gêm dda hyd yn hyn, yn llifo o un pen i’r llall. Cymru sydd wedi cael y cyfleoedd gorau hyd yn hyn, rhyw hanner cyfleoedd sydd wedi bod i’r ymwelwyr – dim syndod bod popeth yn mynd trwy eu capten Dzeko. Y tîm cartref i’w gweld yn ddigon cyfforddus gyda’r system ar hyn o bryd.

20:11 – Pjanic eto’n cael gormod o le gan amddiffyn Cymru ac yn ergydio’n beryglus o bellter, ond yn ei thynnu heibio i bostyn de Cymru.

20:04 – Symudiad da gan Gymru ar yr asgell chwith yn arwain at gyfle i Gunter, ond yntau’n gorfod ergydio ar ei droed chwith wanaf, a dros y trawst.

19:59 – Gunter eto’n cael lle ar y dde, ac yn cael ei faglu gan y cefnwr Lulic, a cherdyn melyn iddo yntau. Ymddangosiad y sbrê hudol i’r wal!

19:56 – Cyfle arall y Bale o bêl dros y top, mae’n penderfynu ergydio ar y cyffyrddiad

19:54 – Pjanic yn ergydio’n beryglus o ymyl y cwrt, ond Hennessey’n llwyddo i arbed yn dda.

19:49 – Cyffyrddiad cyntaf Bale yn odidog ac yn creu cyfle i Gymru. Dim yn dod o’r gic gornel ddilynodd.

19:48 – Mae’n wych gweld Stadiwm Dinas Caerdydd bron iawn yn llawn dop heno (llun isod) – digon o sŵn gan y cefnogwyr hefyd.

19:45 – Cymru’n edrych i ymosod yn syth ac yn defnyddio Gunter ar yr asgell dde yn yr eiliadau cyntaf. Church hefyd yn rhedeg yn sianeli ac yn edrych am le tu ôl yr amddiffyn. Dechrau addawol.

19:44 – Canu da ar gyfer amthem Cymru, dyma’r gic gyntaf!

19:37 – Y ddau dîm newydd ddod allan ar gyfer yr anthemau.


Stadiwm Dinas Caerdydd yn llawn
19:35 – Mae’r stadiwm yn dal i edrych bach yn wag, a’r sî yn fan hyn ydy bod problemau traffig a llawer o’r cefnogwyr yn sownd tu allan.

19:29 – Heb oes, hyd yn oed efo’r stadiwm yn hanner llawn ar hyn o bryd, mae ’na awyrgylch arbennig iawn yn Stadiwm Dinas Caerdydd heno.

19:24 – Maen nhw newydd gyhoeddi tîm Cymru yn y stadiwm a’r gymeradwyaeth yn fyddarol…yn enwedig wrth enwi Gareth Bale!

19:22 – Dyma dîm y gwrthwynebwyr heno: Begovic, Besic, Medunjanin, Ibisevic, Pjanic, Dzeko, Mujdza, Susic, Sunjic, Lulic, Hadzic

19:11 – Mae’n dîm ymosodol yr olwg gan Coleman, a bydd llawer o’r cefnogwyr yn falch gweld Joniesta’n dechrau. Wrth olwg y tîm ar y daflen sydd wedi’n cyrraedd ni’n swyddfa’r wasg, Williams bydd yng nghanol y tri yng nghanol y cae felly bydd disgwyl iddo rheoli’r gêm i Gymru.

19:07 – Bydd Cymru’n chwarae gyda thri yng nghanol yr amddiffyn – Williams, Chester a Davies. Taylor a Gunter yn gefnwyr ymosodol, Jonathan Williams, Ledley a King yng nghanol cae a Bale tu ôl i Church yn yr ymosod.

19:00 – Mae rhestr y timoedd newydd gyrraedd swyddfa’r wasg yma yn y stadiwm, ac mae Chris Coleman wedi dewis tîm diddorol dros ben:

Hennessey, Gunter, Taylor, Chester, Davies, A. Williams, King, Church, Bale, Ledley, J. Williams