Fe fydd miloedd o ddisgyblion 14-16 oed yn cael awr ychwanegol yn y gwely, fel rhan o astudiaeth i geisio darganfod os yw mwy o gwsg yn gwella canlyniadau arholiad.
Prifysgol Rhydychen sy’n arwain yr astudiaeth ac mi fydd tua 31,800 o blant blwyddyn 10 ac 11 o dros gant o ysgolion yn dechrau’r ysgol am 10 yn hytrach na naw o’r gloch.
Yn ystod yr astudiaeth dwy flynedd o hyd, bydd disgyblion hefyd yn cael eu dysgu am y buddion o gael noson dda o gwsg, ac yna fe fydd eu canlyniadau TGAU yn cael eu cymharu gyda disgyblion sydd ddim yn rhan o’r prosiect.
Bydd gofyn i ddisgyblion gadw dyddiadur o’u patrymau cysgu ac fe fydd rhai yn gwisgo dyfeisiadau i fonitro eu cwsg.
Mae’n un o chwe phrosiect sy’n ceisio darganfod sut i wella addysg ym Mhrydain.
Datblygiadau corfforol
“Rydym yn gwybod bod rhywbeth rhyfedd yn digwydd pan rydych yn eich arddegau – fel eich bod allan o gyswllt gyda gweddill y byd,” meddai’r Athro Colin Espie o Brifysgol Rhydychen.
“Mae rhieni yn meddwl bod hyn oherwydd eich bod yn ddiog. Ond mae gwyddoniaeth yn dweud wrthym ni fod y corff yn datblygu yn ystod yr arddegau, sy’n golygu nad ydyn nhw wedi blino ar yr adegau arferol mae oedolion yn mynd i’w gwlâu a’u bod nhw dal yn gysglyd yn y boreau.”
“Rydym am ymchwilio i weld os yw gohirio gwersi o 9 tan 10 o’r gloch dros y flwyddyn am wella dysgu, perfformiad, presenoldeb a chanlyniadau.”