Angus MacLeod
Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i olygydd yr Alban ar gyfer y papur newydd ‘The Times’, Angus MacLeod, sydd wedi marw’n 61 oed yn dilyn salwch hir.
Fe fu’n llais cyfarwydd yn y cyfryngau yn ystod refferendwm yr Alban fis diwethaf.
Trydarodd Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond ei fod yn “drist” o glywed am ei farwolaeth, gan ddweud ei fod yn “newyddiadurwr meddylgar a gwybodus y bydd colled ar ei ôl o bob tu i’r rhaniad gwleidyddol”.
Ychwanegodd y Dirprwy Brif Weinidog, Nicola Sturgeon fod MacLeod yn “newyddiadurwr o’r hen ysgol ac yn un o’r goreuon heb amheuaeth”.
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn yr Alban, Ruth Davidson ei fod yn “rhyfeddol ac yn bigog bron yr un fath”.
Yn ôl Llywydd Senedd yr Alban, Tricia Marwick roedd MacLeod “yn ffrind gwych i fi ac i Senedd yr Alban”.