Huw Lewis
Fe fydd y Gweinidog Addysg, Huw Lewis, yn lansio cystadleuaeth heddiw sy’n gofyn i ddisgyblion ysgol lunio ffilm am fwlio.
Mewn dau gategori gwahanol, mae ysgolion cynradd ac uwchradd yn cael eu hannog i gystadlu trwy greu ffilmiau byr sy’n arddangos yr effaith mae bwlio yn ei gael ar rywun.
Eleni, mae’r Llywodraeth yn annog disgyblion i ganolbwyntio ar anabledd, hil, crefydd neu dueddiadau rhywiol yn eu ffilmiau.
Bydd yr enillydd yn derbyn cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a chwmni ffilm proffesiynol i ddatblygu eu syniadau ymhellach.
‘Safon uchel’
“Roedd ffilmiau’r gystadleuaeth y llynedd o safon uchel iawn ac roeddwn wedi fy synnu gyda brwdfrydedd a natur broffesiynol y rhai fu’n cymryd rhan,” meddai Huw Lewis.
“Rwy’n annog disgyblion ledled Cymru i ymgeisio a helpu rhannu’r neges fod bwlio, ym mhob ffordd, yn gwbl annerbyniol.”