Alan Henning
Dywedodd cyn-garcharor Bae Guantanamo, Moazzam Begg, ei fod wedi cynnig helpu Llywodraeth y DU i sicrhau rhyddhau’r gwystl Prydeinig Alan Henning a gafodd ei gipio gan IS, ond bod ei gynnig wedi cael ei wrthod.

Dywedodd Moazzam Begg ar raglen Today ar Radio 4 ei fod yn credu ei fod yn gwybod pwy oedd yn cadw’r gweithiwr dyngarol yn wystl.

Cafodd Alan Henning, 47, ei lofruddio wythnos diwethaf.

Ychwanegodd Begg ei fod wedi helpu rhyddhau gwystlon oddi wrth eithafwyr yn Syria yn y gorffennol.

Honnodd bod y Swyddfa Dramor wedi gwrthod ei gynnig i ddechrau er eu bod nhw wedyn wedi dweud y gallai anfon neges at IS trwy un o ganolwyr y Llywodraeth, ond nid yn uniongyrchol.

Dywedodd Moazzam Begg wrth y rhaglen na allai’r neges fod wedi cael ei hanfon gan unrhyw un arall ond fo’i hun oherwydd y cysylltiad y gallai fod wedi ei wneud gyda’r brawychwyr.

Wythnos diwethaf, cafodd Moazzam Begg ei ryddhau o’r carchar ar ôl i erlynwyr benderfynu gollwng saith cyhuddiad yn ymwneud a brawychiaeth yn ei erbyn.