Fe all pobol yng Nghymru sy’n yfed hanner potel o win neu dri pheint y nos gael cael cynnig pilsen ar y Gwasanaeth Iechyd er mwyn lleihau eu hyfed.

Yn ôl y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE) mae bron i 600,000 o bobol yn gymwys i dderbyn y bilsen.

Mae arbenigwyr yn honni y byddai’n arbed 1,854 o fywydau tros bum mlynedd yn ogystal ag arbed 43,074 o anafiadau sy’n digwydd pan fydd pobol o dan ddylanwad alcohol.

Law yn llaw â chwnsela, dangosodd ymchwil fod y bilsen, sy’n costio £3 yr un, yn lleihau awydd person am ddiod o tua 61%. Mae’n gweithio trwy leihau ymateb y rhan o’r ymennydd sy’n rhoi pleser i bobol pan maen nhw’n yfed alcohol.

Dibyniaeth

“Mae dibyniaeth ar alcohol yn fater difrifol iawn i nifer o bobol,” meddai’r Athro Carole Longson o NICE.

“Bydd y rhai sy’n cymryd y bilsen wedi gwneud cam mawr trwy ymweld â’u meddyg teulu, gweithio gyda gwasanaethau cefnogol a chymryd rhan mewn rhaglenni therapi.”

Mae’r bilsen yn cael ei chynnig yn yr Alban ers y llynedd ac fe fydd Cymru a Lloegr yn ystyried ei chyflwyno ym mis Tachwedd.