Theresa May
Petai’r Ceidwadwyr yn dod i rym yn yr etholiad cyffredinol nesaf, byddai’r blaid yn cyflwyno pwerau newydd er mwyn mynd i’r afael a grwpiau eithafol ac ymddygiad “radicalaidd a threisgar” ym Mhrydain.

Dyna hanfod araith yr Ysgrifennydd Cartref Theresa May wrth iddi annerch Cynhadledd y Blaid yn Birmingham heddiw.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref y dylai’r gymuned Fwslimaidd ym Mhrydain sylweddoli bod byw ar ynysoedd y DG yn dod ynghlwm a chyfrifoldeb i barchu gwerthoedd Prydeinig.

“Dyma’r gwerthoedd sy’n gwneud Prydain yr hyn yw e. Dyma ein gwerthoedd ni. Does dim lle i eithafiaeth yma,” meddai.

Gwahardd

O dan y cynlluniau fe fyddai gorchmynion newydd yn rhoi caniatâd i’r awdurdodau wahardd grwpiau eithafol, hyd yn oed os nad ydyn nhw’n peri bygythiad.

Yn ogystal, byddai pregethwyr eithafol yn medru derbyn gorchmynion gan y llys fyddai’n eu gwahardd rhag siarad mewn digwyddiadau cyhoeddus, cymryd rhan mewn protestiadau a darlledu eu negeseuon.

Bydd y cynigion a gafodd eu hamlinellu gan Theresa May yn cael eu cynnwys ym maniffesto’r Ceidwadwyr ar gyfer etholiadau 2015.

Bygythiad

Ychwanegodd Theresa May bod y potensial i Brydeinwyr gael eu radicaleiddio cyn ymuno a grwpiau eithafol fel IS yn Irac a Syria yn amlwg erbyn hyn.

Fe ddatgelodd hefyd bod y Swyddfa Gartref wedi cymryd pasbort 25 o Brydeinwyr oedd yn ceisio teithio i Syria, a bod 103 o bobol wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â brawychiaeth yn Syria.