Bydd y cytundeb yn sicrhau 'buddsoddiad mawr mewn ysgolion' yn ol Kirsty Williams
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi arwyddo cytundeb dwy flynedd gyda Llafur i basio cyllideb Llywodraeth Cymru.
Dywedodd y Llywodraeth y bydd y cytundeb yn “sicrhau sefydlogrwydd ar gyfer pobl Cymru yn ystod y cyfnod ariannol heriol.”
Mae’r cytundeb yn werth £223 miliwn dros gyfnod o ddwy flyneddyn ac yn cynnwys arian i gwblhau ffordd gyswllt yn nwyrain Caerdydd ac addewid i beidio ag adeiladu ffordd liniaru’r M4 newydd cyn etholiadau nesaf y Cynulliad.
Roedd Plaid Cymru wedi gwrthod bod yn rhan o’r trafodaethau oherwydd eu bod nhw yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â’r gwaith i addasu’r M4 yn ardal Casnewydd.
Bydd manylion y gyllideb yn cael eu cyflwyno gan y Gweinidog Cyllid, Jane Hutt, prynhawn ma.
Ond mae disgwyl i’r cytundeb hefyd gynyddu’r arian i Grant Amddifadedd Disgyblion o £6 miliwn. Mae’r grant yn cynyddu’r arian sydd ar gael i’w wario ar addysg mewn ardaeloedd difreintiedig.
Meddai’r Democratiaid Rhyddfrydol y bydd yn helpu 70,000 o blant a phobl ifanc.
Bydd £15 miliwn i roi consesiwn teithio i bobl ifanc a £10 miliwn ychwanegol i gynyddu prentisiaethau a bydd hanner miliwn ar gael i gynllun peilot a fyddai’n cynnig gofal plant i fyfyrwyr addysg bellach.
‘Buddsoddiad mawr’
Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams: “Mae’r cytundeb yma yn sicrhau buddsoddiad mawr yn ein hysgolion tra hefyd yn cynnig hwb sylweddol i economi Cymru.”
Dywedodd Eluned Parrott AC Democratiaid Rhyddfrydol Cymru: “Rydym wedi sicrhau’r cytundeb hwn er mwyn cymryd traffig oddi ar ffyrdd lleol yng nghanol dinas Caerdydd, i agor ardal ddwyreiniol y Bae ar gyfer buddsoddi a datblygu, i greu swyddi ychwanegol ac i wella ansawdd bywyd y trigolion sy’n byw gerllaw ffyrdd mwyaf prysur canol y ddinas.”