Y Canghellor George Osborne
Fe fydd y Canghellor George Osborne yn cyhoeddi cynlluniau i gael gwared a’r Dreth Etifeddiaeth ar bensiynau wrth iddo annerch Cynhadledd y Blaid Geidwadol yn Birmingham heddiw.
O dan y cynlluniau fe fydd cynilwyr yn gallu trosglwyddo arian o’u pensiynau i’w plant a’i wyrion yn ddi-dreth yn dilyn eu marwolaeth, yn dilyn penderfyniad George Osborne i sgrapio’r dreth o 55%.
Fe fydd y mesur yn effeithio unrhyw un sy’n etifeddu arian o gronfa bensiwn o Ebrill 2015 ac mae disgwyl i filoedd o bobl elwa o’r newidiadau.
Pan fydd yn annerch yn gynhadledd mae disgwyl i George Osborne ddweud y bydd y newidiadau yn rhoi “rhyddid i bensiynau pobl.”
Ddoe, dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb ei fod am weld pwerau mwy “pellgyrhaeddol a hyblyg” yn cael eu trosglwyddo o Lundain i Gaerdydd.
Fe fydd yn gofyn heddiw i Fil Cymru gael ei ddiwygio er mwyn cael gwared ag unrhyw gymal sy’n rhwystro trosglwyddo pwerau trethu.
Mae dau ddigwyddiad wedi taflu cysgod dros gynhadledd y blaid sef penderfyniad yr AS Mark Reckless i ymuno a UKIP ac ymddiswyddiad y gweinidog Brooks Newmark am anfon negeseuon amhriodol ar wefan gymdeithasol.