Dave Lee Travis
Ni fydd y troellwr disgiau Dave Lee Travis yn cael ei garcharu am ymddwyn yn anweddus tuag at ymchwilydd ar raglen deledu The Mrs Merton Show.
Cafodd cyn-gyflwynydd Top of the Pops ei ddedfrydu i dri mis o garchar wedi ei ohirio gan y Barnwr yn Llys y Goron Southwark yn Llundain.
Bu’r llys yn clywed bod Travis yn mwynhau “gwefr rywiol wyrdroedig” pan ymosododd yn anweddus ar y ddynes, sydd erbyn hyn yn adnabyddus ar y teledu, nôl yn 1995.
Roedd Travis wedi ei chornelu yn un o goridorau’r BBC a gwasgu ei bronnau am 10 i 15 eiliad.
Yn dedfrydu’r DJ 69 oed, dywedodd y Barnwr Leonard: “Roedd yn ymosodiad rhywiol bwriadol ac annymunol.
“Fe gymroch chi fantais o ddynes ifanc mewn sefyllfa fregus a oedd yno i edrych ar eich ôl chi’r diwrnod hwnnw.”
Edrychodd Travis ar y llawr a dweud “Diolch Eich Mawrhydi” wedi i’r Barnwr roi’r ddedfryd.