Nigel Farage
Mae arweinydd UKIP, Nigel Farage, wedi dweud fod ei blaid yn datblygu i fod yn brif wrthblaid i herio Llafur yng Nghymru, gan lenwi bwlch sydd wedi ei adael gan y Ceidwadwyr Cymreig.

Dywedodd hefyd fod Llywodraeth Prydain yn gwneud tro gwael â Chymru o ran cyllideb.

Mae’n dilyn pôl gan ICM a BBC Cymru ddangosodd fod UKIP yn ennill tir yng Nghymru, gyda’r gefnogaeth i blaid Nigel Farage yn dyblu ers mis Mawrth – o 7% i 14%.

Newid

“Mae gwleidyddiaeth yn newid yn gyflym iawn – does dim ond rhaid edrych ar y cynnydd mewn cefnogaeth i annibyniaeth yn yr Alban dros y misoedd diwethaf,” meddai Nigel Farage yn siarad cyn cynhadledd flynyddol UKIP.

Ychwanegodd: “Dw i’n meddwl os yw pobol yng Nghymru yn edrych ar y system Addysg a’r Gwasanaeth Iechyd maen nhw’n gofyn i’w hunain: ‘pam ydan ni’n cael ein trin yn waeth na gweddill Prydain?’

“Dw i ddim yn gwybod pwy sy’ wedi bod yn lobïo ar ran Cymru dros y 40 mlynedd diwethaf ond dydyn nhw ddim wedi gwneud hynny mor effeithiol â’r Albanwyr, dyna’r gwir plaen.

“Mae’n gwestiwn o bwy all fod yn wrthblaid effeithiol i’r Blaid Lafur, ac yn hanesyddol dw i’n meddwl taw’r Ceidwadwyr sy’ wedi chwarae’r rôl honno, ond dw i’n meddwl fod peth tystiolaeth ein bod ni’n dechrau llenwi’r bwlch.”