Ty'r Cyffredin
Mae disgwyl i aelodau seneddol ddychwelyd i Dŷ’r Cyffredin ddydd Gwener i drafod y posibilrwydd o ymuno mewn ymosodiadau ar fudiad y Wladwriaeth Islamaidd – IS – yn Irac.
Mae disgwyl hefyd y bydd cais ffurfiol yn dod gan Irac i wledydd Prydain ymuno yn yr ymosodiadau ar ôl i’r Unol Daleithiau a phump gwlad Arabaidd ymosod ar IS ddoe yn Syria.
Y tebygrwydd yw y bydd y Senedd yn cael ei galw ar gyfer dydd Gwener pan fydd Prif Weinidog Prydain, David Cameron, yn gofyn am gefnogaeth i ymuno yn yr ymosodiadau.
Dyw hi ddim yn glir a fydd y drafodaeth yn cynnwys ymosod yn Syria hefyd – fe fyddai hynny’n golygu ymosod ar brif wrthwynebwyr yr Arlywydd Assad, sy’n cael ei wrthwynebu gan y rhan fwya’ o aelodau seneddol.
Trafod gydag Iran
Fe fydd David Cameron hefyd yn cynnal trafodaethau gydag Arlywydd Iran, Hassan Rouhani, yn Efrog Newydd heddiw.
Dyma fydd y tro cynta’ i arweinydd Prydeinig gwrdd ag arweindd Iran ers y chwyldro yno yn yr 1970au pan gafodd y Shah ei ddisodli.
Mae’n dangos pa mor gry’ yw awydd gwledydd y Gorllewin yw cael cefnogaeth Iran yn y frwydr yn erbyn IS.