Llun Gwasanaeth Iechyd
O heddiw ymlaen, mae gan feddygon traed a ffisiotherapyddion yng Nghymru’r hawl i roi rhai meddyginiaethau i’w cleifion – canlyniad deddf newydd gan Lywodraeth Cymru.
Cyn hyn, roedd rhaid i’r gweithwyr iechyd yrru eu cleifion at feddyg teulu i dderbyn meddyginiaeth fel cyffuriau lleddfu poen.
Mae’r newid yn cael ei weld yn ymdrech i leihau llwyth gwaith meddygon teulu ac i wella profiad cleifion.
‘Newid sylweddol’ meddai’r Gweinidog
“Mae’r rheoliadau newydd hyn yn newid sylweddol i’r ffordd y mae’r Gwasanaeth Iechyd yn gweithio. Fe fydd yn golygu gwasanaethu cynt i gleifion,” meddai’r Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford.
“Mae hefyd yn cydnabod cymwysterau a phrofiad y meddygon traed a’r ffisiotherapyddion ac yn eu galluogi i drin eu cleifion mewn ffordd fwy effeithiol.”
Mae ffisiotherapyddion yn Lloegr wedi cael rhoi moddion i’w cleifion ers 2012.