Neuadd y Sir, Caerfyrddin
Mae elusen Alabare wedi datgan ei siom ar ôl i Gyngor Sir Gâr wrthod rhoi caniatâd cynllunio i newid adeilad yng Nghaerfyrddin yn gartref i gyn-filwyr gyda phroblemau iechyd meddwl.
Roedd y penderfyniad yn groes i gyngor swyddogion cynllunio wedi’i seilio ar bryderon pobol leol, yn ôl y cyngor.
Bwriad Alabare oedd rhoi llety i chwech o gyn-filwyr yno.
Ystyried apelio
Mae llefarydd ar ran yr elusen wedi dweud eu bod yn parhau i chwilio am gartref yn y dref a’u bod yn ystyried apelio yn erbyn y penderfyniad.
“Rydym yn siomedig gyda phenderfyniad Cynghorwyr Pwyllgor Cynllunio Sir Caerfyrddin i wrthod ein cais i newid defnydd yr eiddo yn Lôn Hir,” meddai cyfarwyddwr yr ymgyrch dros yr elusen, Geoffrey Willis.
“Byddwn yn edrych ar resymau’r Cyngor am wneud y penderfyniad cyn penderfynu a ydym am apelio.”
Mae Alabare yn rhoi cymorth i fwy na 3,000 o bobol ddod o hyd i gartref bob blwyddyn