Nigel Farage
Mae plaid UKIP yn ennill tir yng Nghymru yn ôl yr arolwg barn diweddara’.
Llafur sydd wedi colli mwya’ o ganran o’r bleidlais ond, yn ôl un arbenigwr gwleidyddol, fe fydden nhw’n ennill seddi yn yr Etholiad Cyffredinol y flwyddyn nesa’.
Yn ôl pôl ICM a BBC Cymru, mae’r gefnogaeth i blaid Nigel Farage, UKIP, wedi dyblu ers yr un cwestiwn ym mis Mawrth – o 7% i 14%.
- Mae Llafur i lawr 4 pwynt i 38%.
- Mae’r Ceidwadwyr i lawr 1 i 23%
- Mae Plaid Cymru hefyd i lawr 1 i 13%
- Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol i lawr 2 i 7%.
‘Gallai Llafur ennill seddi’
Yr Athro Roger Scully o Brifysgol Caerdydd sydd wedi dadansoddi’r arolwg ar ran y BBC ac, er gwaetha’r ffigurau, mae’n dweud mai Llafur fyddai’n ennill seddi.
Pe bai’r symudiad cefnogaeth yn digwydd yn gyfartal trwy Gymru yn yr Etholiad Cyffredinol, mae’n dweud y byddai Llafur yn ennill dwy.
Fyddai cefnogaeth UKIP ddim yn ddigon i ennill seddi, meddai, ond fe fyddai’r gostyngiad i’r Democratiaid yn golygu eu bod yn colli pob sedd ond Ceredigion.