Mae lefel y gefnogaeth i annibyniaeth yng Nghymru wedi cwympo i’w lefel isa’ ers blynyddoedd – ond felly hefyd y galw am gael gwared ar y Cynulliad Cenedlaethol.
Yn sgil refferendwm yr Alban, dim ond 3% o bobol Cymru sydd eisiau annibyniaeth, yn ôl yr arolwg barn newydd gan ICM a BBC Cymru.
Mae hynny’n ostyngiad o 2% ar yr arolwg diwetha’ ym mis Mawrth – bryd hynny, roedd 5% o blaid annibyniaeth a hynny’n codi i 7% pe bai’r Alban yn annibynnol.
Y manylion
- Roedd bron iawn hanner y 1,006 atebodd yr arolwg tros y ffôn o blaid cael rhagor o bwerau i’r Cynulliad – 49%.
- Dim ond 12% sydd eisiau cael gwared ar y Cynulliad, gostyngiad o 11 pwynt, a ffigwr sydd i lawr i lefelau 2010.
- Dim ond 2% sydd eisiau llai o bwerau, tra bod 26% yn credu bod y pwerau’n iawn fel y maen nhw.
- Doedd 6% ddim wedi rhoi ateb pendant.
Roedd y BBC’n dyfynnu’r arbenigwr gwleidyddol, yr Athro Roger Scully o Brifysgol Caerdydd. Roedd e’n dweud mai dyma’r gefnogaeth isa’ iddo’i gweld i annibyniaeth.