Alex Salmond
Fe fydd Alex Salmond yn dychwelyd i Holyrood am y tro cyntaf heddiw ar ôl iddo fethu yn ei ymdrech i sicrhau annibyniaeth i’r Alban.
Mewn datganiad i’r Senedd yn yr Alban, mae disgwyl i Alex Salmond edrych yn ôl ar y refferendwm a rhoi pwysau ar y pleidiau i gadw at eu haddewidion i roi rhagor o bwerau i’r Alban yn sgil pleidlais Na.
Roedd yr Alban wedi pleidleisio yn erbyn annibyniaeth o 55% i 45% yn y refferendwm ddydd Iau.
Mae disgwyl iddo hefyd alw am roi’r bleidlais i bobl ifanc 16 ac 17 oed yn etholiadau’r dyfodol.
Mae Alex Salmond eisoes wedi dweud ei fod am ymddiswyddo fel Prif Weinidog ac fel arweinydd yr SNP a’r disgwyl yw y bydd yn cael ei olynu gan Nicola Sturgeon.