Ed Miliband
Mae cynadleddwyr y Blaid Lafur Brydeinig yn ymgynnull heddiw ym Manceinion gyda refferendwm yr Alban a’i ganlyniadau yn ganolog i’r trafodaethau.
Mae arweinydd y blaid Ed Miliband wedi dweud bod angen cyfres o “sgyrsiau” rhanbarthol ar draws y Deyrnas Unedig ar sut i ledaenu pŵer o San Steffan.
Ond mae’n wynebu pwysau gan David Cameron i gytuno i ddiwygiadau a fyddai’n atal Aelodau Seneddol yr Alban – ac o bosib ASau Cymru – rhag pleidleisio ar faterion sy’n ymwneud â Lloegr yn unig.
Ddoe galwodd David Cameron am “bleidleisiau Seisnig ar gyfer deddfau Lloegr”, polisi a fyddai’n ergyd i allu Llafur i lywodraethu yn San Steffan am eu bod nhw’n fwy dibynnol na’r Ceidwadwyr ar ASau o’r Alban a Chymru.
Mae Llafur Cymru eisoes wedi dweud na fyddai’r polisi’n bosibl am fod penderfyniadau cyllideb yn Lloegr sy’n ymwneud â mater datganoledig megis iechyd, yn cael effaith ar faint o gyllid gaiff Cymru trwy fformiwla Barnett.
Confensiwn cyfansoddiadol
Ddoe addawodd David Cameron y bydd yr Alban yn cael rhagor o bwerau a Chymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn cael “rhagor o lais dros eu materion nhw.”
Mae disgwyl i ddeddfwriaeth ddrafft gael ei chyhoeddi ym mis Ionawr, gyda thrafodaeth yn y cyfamser ar natur pwerau’r Alban dros drethi a gwariant.
Yn y cyfamser mae Ed Miliband am weld confensiwn cyfansoddiadol yn cael ei sefydlu i edrych ar ddatganoli yng ngwledydd Prydain, yn arbennig o fewn Lloegr.
“Ni fydd y Blaid Lafur yn eistedd nôl ac yn rhoi arwydd ‘Busnes yn ôl yr arfer’ dros San Steffan,” meddai Ed Miliband.
“Ni fydda i chwaith yn gadael i’r foment yma gael ei defnyddio er mwyn cael ennill mantais bleidiol, gul,” meddai.
Ond mewn digwyddiad yng Nghaerfyrddin neithiwr dywedodd Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Jonathan Edwards, mai “buddiannau pleidiol sy’n gyrru popeth yn San Steffan.”
“Dydy’r pleidiau Prydeinig ddim yn becso go iawn am bwerau i’r Alban a Chymru,” meddai Jonathan Edwards AS mewn sesiwn Hawl i Holi.
“Maen nhw’n edrych ar ôl eu buddiannau etholiadol nhw yn Lloegr.”