Mae Ann Clwyd wedi penderfynu sefyll unwaith eto fel Aelod Seneddol yn 2015.

Roedd aelod Llafur Cwm Cynon, sy’n 77 oed, wedi dweud ym mis Chwefror eleni y byddai’n rhoi’r gorau iddi ar ôl bod yn aelod etholedig ers 1984.

Daw ei phenderfyniad yn dilyn gorchymyn gan Bwyllgor Cenedlaethol Prydain i’r etholaeth yn lleol ddefnyddio rhestr merched yn unig i ddewis ei holynydd. Roedd y blaid yn lleol yn chwyrn yn erbyn y syniad.

Dywedodd ysgrifennydd etholaeth y blaid, Alun Williams, y byddai’r blaid yn lleol yn mynd ar streic gan beidio dewis olynydd i Ann Clwyd. Ond mae’r aelod wedi ail feddwl ac yn gobeithio dychwelyd i San Steffan unwaith eto.

“Ar ôl nifer o geisiadau gan bleidleiswyr Llafur yn Cwm Cynon, ac ar ôl ystyried y dadleuon a roddwyd i mi yn fanwl, rwy’n gobeithio sefyll eto,” meddai Ann Clwyd.