JK Rowling
Roedd JK Rowling ymysg yr enwogion cyntaf i longyfarch yr Albanwyr am wrthod annibyniaeth.

Fe roddodd awdur y llyfrau Harry Potter £1m i’r ymgyrch ‘Na’ yn gynharach eleni, ac wrth i’r canlyniad ddod yn amlwg fe drydarodd: “Yn effro drwy’r nos yn gwylio’r Alban yn creu hanes. Y nifer bleidleisiodd yn anferth, proses ddemocrataidd heddychlon: dylem ymfalchïo.”

Bu’n pryderu am effaith annibyniaeth ar yr economi ac ymchwil meddygol.

Er iddi gael ei geni yn Lloegr, mae JK Rowling wedi byw yn Yr Alban ers 21 o flynyddoedd.

Devo Max

Mae’r actor enwog Alan Cumming wedi galw ar ei gyd-ymgyrchwyr ‘Ia’ i barhau i fynnu bod rhagor o rymoedd yn cael eu trosglwyddo o San Steffan i Senedd Holyrood – yr hyn sy’n cael ei alw’n ‘devo max’.

Trydarodd seren y ffilm James Bond Goldeney: “Fy nghyfeillion ‘Ia’, gadewch i ni gyfeirio ein hangerdd tuag at sicrhau bod sefydliad San Steffan yn cadw at eu haddewidion ar devo max”.

Frankie Boyle

Mae disgwyl i Frankie Boyle gyflwyno sioe ar y BBC yn dadansoddi’r canlyniad.

Meddai’r digrifwr a oedd yn cefnogi annibyniaeth: “Fe ddylwn i fod wedi disgwyl hyn, oherwydd petaech chi wedi gofyn i mi amcangyfrif faint o g***iaid sydd yn Yr Alban, mi fyddwn i wedi dweud tua dwy filiwn.”