Mae Ysgol Uwchradd Brynrefail yn Llanrug yn parhau ar agor heddiw, er bod nifer “anghyffredin” o’r disgyblion adref yn sâl gyda’r salwch norofirws.
Cafodd y rhieni nodyn yn egluro symptomau’r haint, sy’n cynnwys “gwres uchel, cur pen, taflu fyny a/neu ddolur rhydd”, ac yn cynghori disgyblion sy’n teimlo’n sâl i aros adref am 48 awr.
Does dim esboniad wedi’i roi eto ynghylch beth sydd wedi achosi i’r haint ledu.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd fod yr ysgol yn “cydweithio’n agos gydag Adran Addysg y Cyngor ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddelio efo’r sefyllfa”.
Mae’r BBC yn adrodd bod bron i 300 o 780 o ddisgyblion yr ysgol sy’n gwasanaethu pentrefi Deiniolen, Brynrefail, Llanberis, Bethel a Llanrug yn sâl.