Mark Isherwood
Mae AC gogledd Cymru yn galw ar y Gweinidog Addysg, Huw Lewis, i ymateb i bryderon am gynnydd mewn meintiau dosbarthiadau ysgolion cynradd a meithrin.
Dangosodd cyfrifiad ysgol bod nifer y dosbarthiadau gyda 30 neu fwy o ddisgyblion wedi cynyddu bob blwyddyn ers 2004, ac mae Mark Isherwood yn dweud bod hyn yn “rhoi dyfodol plant mewn peryg”.
Wrth siarad yn y Senedd, dywedodd yr AC dros ogledd Cymru: “Ddegawd yn ôl roedd Llywodraeth Cymru yn dweud wrthym ni fod dosbarthiadau llai yn golygu bod disgyblion am gael mwy o sylw.
“Fe newidiodd yr agwedd hynny i fod yn ‘mae mwy yn well’ a hynny ar ba bynnag gost i ysgolion cymunedol.
“Mae dosbarthiadau mawr yn arwain at fwy o lwyth gwaith i athrawon, a hefyd yn lleihau gallu’r athrawon i ddarparu cefnogaeth un i un i blant.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:
“Gadewch inni fod yn glir am hyn. Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos mai 30 neu’n llai o ddisgyblion sydd yn y mwyafrif helaeth o ddosbarthiadau babanod (bron i 95%) ac mai 30 neu’n llai o ddisgyblion sydd mewn bron i 93% o ddosbarthiadau iau yng Nghymru.
“Ar ôl ystyried yr eithriadau a ganiateir yn ôl y gyfraith, datgelodd Cyfrifiad Maint Dosbarth Ionawr 2014 mai dim ond 24 (0.6%) o’r 4,186 o ddosbarthiadau babanod yng Nghymru oedd â mwy na 30 o ddisgyblion.”
Ffigyrau
Yn ôl y cyfrifiad ysgol, mae dosbarthiadau meithrin gyda 31 disgybl neu fwy wedi mwy na dyblu o 2.4% yn 2010 i 5.4% yn 2014.
Ac mewn ysgolion cynradd, mae nifer y dosbarthiadau 31+ wedi codi o 4.7% yn 2012 i 7.1% yn 2014.
Llwyth gwaith athrawon
Ychwanegodd Mark Isherwood: “Fel dywedodd Swyddog Polisi NUT Cymru, Owen Hathway: ‘nid yw’r ffigyrau ar eu pen eu hunain yn ddychrynllyd, ond mae’r patrwm sydd wedi ymddangos yn peri pryde’r.
“Mae dosbarthiadau mawr yn arwain at fwy o lwyth gwaith i athrawon, a hefyd yn lleihau gallu’r athrawon i ddarparu cefnogaeth un i un i blant.
“Mae dyfodol ein plant yn cael ei beryglu – all Llywodraeth Cymru ddim fforddio bodloni ar hyn.”