Heddiw yw diwrnod cyntaf cyfres o brotestiadau gan rai o staff Prifysgol Aberystwyth dros benderfyniad i sgrapio eu cynllun pensiwn.

Bydd staff gweinyddol, swyddogion diogelwch a chynorthwywyr llyfrgell – y gweithwyr sydd ar y cyflogau isaf, yn ôl undeb Unsain – yn cerdded allan o’u gwaith am bedwar diwrnod.

Mae’n digwydd wrth i fyfyrwyr newydd gyrraedd y brifysgol ar gyfer dechrau’r tymor academaidd newydd, ac mae undeb Unsain yn cydnabod y bydd streic yn amharu ar y croeso i fyfyrwyr.

Ond mae swyddogion yr undeb yn dweud nad oes ganddyn nhw ddewis ar ôl methu â gwyrdroi penderfyniad awdurdodau’r brifysgol i newid amodau pensiwn gweithwyr y brifysgol.

Mae’r brifysgol wedi dweud fod y streicio yn “fygythiad posibl i gynaliadwyedd y brifysgol”.

Tarfu

Yfory bydd aelodau o undebau Unsain, Unite, UCU a Prospect yn gorymdeithio a chynnal rali yn Aberystwyth.

Dywedodd rheolwr rhanbarthol Unsain, Simon Dunn: “Yn amlwg, nid yw ein haelodau eisiau colli pedwar diwrnod o waith na tharfu ar ddiwrnodau cyntaf y myfyrwyr. Ond o ystyried bod eu pensiynau am gael eu torri, maen nhw’n teimlo nad oes ganddyn nhw ddewis.

“Mae’r brifysgol wedi penderfynu dod a chynllun pensiwn y bobol sydd ar y cyflogau isaf i ben.”

Siom

Mewn datganiad, dywedodd y Brifysgol ei bod yn “hynod o siomedig”.

“Wrth barchu yn llawn hawl unigolyn i leisio barn, mae targedu’r penwythnos lle mae’r Brifysgol yn croesawu ei myfyrwyr newydd yn mynd yn erbyn yr holl waith caled a wnaed gan gydweithwyr yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i adeiladu perthynas a denu myfyrwyr i Aberystwyth,” meddai llefarydd.

“Mae’r weithred yn ceisio taro busnes craidd y brifysgol.”