Ysgrifen ar y mur - cefnogwraig Na yn edrych ar negeseuon Ie ddoe
Mae pobol yr Alban wedi pleidleisio yn erbyn annibyniaeth o 55-45%

Mae un ardal ar ôl – yr Ucheldiroedd, lle mae problemau gyda’r cyfri – ond fydd hynny ddim yn gwneud gwahaniaeth i’r canlyniad.

Fe groesodd yr Ymgyrch Na y trothwy am wyth munud wedi chwech y bore gyda’r canlyniad o Fife.

Mae’r canlyniadau a digwyddiadau’r nos fan hyn.

Dim ond pedair ardal sydd wedi cefnogi annibyniaeth, ond roedd y rheiny’n cynnwys y ddinas fwya’, Glasgow, a dinas Dundee.

Symud ymlaen

Mewn araith yn union wedi i’r canlyniad ddod yn amlwg, fe ddywedodd Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond, y dylai pawb dderbyn barn y bobol ond bod rhaid symud ymlaen “yn gyflym” ac “ynghyd” gydag addewidion y pleidiau Prydeinig i roi rhagor o rym i’r Alban.

Ynghynt, roedd y Dirprwy Brif Weinidog, Nicola Sturgeon, wedi mynnu nad pleidlais dros y status quo oedd canlyniad y refferendwm.

Mae arweinydd yr ymgyrch Na, Alistair Darling, hefyd wedi pwysleisio bod y bleidlais yn dangos awydd am newid ac y byddai’n rhaid ymateb i hynny. Fe fyddai’n rhaid i’r pleidiau mawr, meddai, gadw at eu haddewidion.

Pobol hŷn a dosbarth canol gryfa’ yn erbyn

Mae dadansoddiadau’r arbenigwyr hyd yn hyn yn awgrymu dwy neu dair duedd glir yn y bleidlais yn yr Alban – mai pobol ddosbarth canol a hŷn oedd wedi pleidleisio gryfa’ yn erbyn annibyniaeth.

Roedd ardaloedd dosbarth gwaith yn Glasgow a dinasoedd eraill wedi pleidleisio Ie ac mae hynny’n cael ei ddehongli yn fynegiant o anfodlonrwydd gydag annhegwch y drefn fel y mae.

Mae sylwebyddion yng Nghaeredin yn awgrymu y bydd gan y Blaid Lafur, yn arbennig, waith caled i gadw rhai o’i chefnogwyr hi.