Marie Rimmer (Llun o wefan Cyngor St Helens)
Mae’r heddlu wedi arestio cyn-arweinydd Cyngor St Helens, Marie Rimmer, y tu allan i orsaf bleidleisio yn Glasgow.
Yr honiad yw fod Marie Rimmer, sydd hefyd yn ddarpar ymgeisydd seneddol ar ran y Blaid Laafur, wedi cicio dynes amser cinio wrth iddi aros i fynd i mewn i bleidleisio.
Roedd y gwleidydd wedi teithio i’r Alban yn rhan o garfan o wleidyddion sy’n cefnogi’r ymgyrch ‘Na’.
Mae Heddlu’r Alban wedi cadarnhau bod dynes 61 oed wedi cael ei harestio ar amheuaeth o ymosod ar ddynes arall, ac y bydd yr achos yn cael ei drosglwyddo i’r erlynydd.
… a dyn o’r ymgyrch Ie
Yn y cyfamser, mae dyn 44 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ymosod y tu allan i orsaf bleidleisio yn Clydebank.
Cafodd yr heddlu eu galw yn dilyn y digwyddiad yng ngorllewin Sir Dunbarton y bore ma.
Yn ôl rhai adroddiadau, roedd y dyn yn gefnogwr ‘Ie’ ac roedd e wedi ymosod ar gynghorydd Llafur lleol, oedd yn gwrthwynebu annibyniaeth.
Unwaith eto, bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r erlynydd.