Llys y Goron, Bryste
Mae criw o ferched wedi eu cael yn euog o weithredu cynllun ‘pyramid’ yn ne Cymru – a hwnnw edi colli cyfanswm o £21 miiwn i filoedd o fuddsoddwyr.

Roedd rhai – merched yn benna’ – wedi colli cymaint â £15,000 ac mae dyn o Sir Fynwy wedi sôn sut y cafodd yntau ei dwyllo.

Fe ddaeth manylion am y cynllwyn i’r amlwg ar ôl i dair o’r merched bledio’n euog cyn i achos llys ddechrau yn eu herbyn.

Chwech wedi eu dedfrydu cynt

Roedd chwech arall eisoes wedi cael eu dedfrydu wedi achosion yn 2012 a 2013 ond fod dim hawl i’r wasg a’r cyfryngau adrodd am hynny nes bod yr holl achosion ar ben.

Roedd y merched o Fryste wedi bod yn gweithredu’r cynllun ‘Give and Take’ yn ne Cymru a de-orllewin Lloegr rhwng mis Mai 2008 a mis Ebrill 2009, ac wedi annog 10,000 o bobol i fuddsoddi £3,000 neu fwy ynddo.

Fe ddaeth i’r amlwg eu bod wedi elwa o tua £92,000 yr un, gyda chyfranwyr y cynllun yn colli hyd at £15,000 yr un.

Fe ddaeth y cyfan i ben mewn llys ym Mryste heddiw, pan wnaeth Mary Nash, 65, Susan Crane, 68, a Hazel Cameron, 54, newid eu ple a ch faddef i weithredu ac annog y cynllun.

Fel arall, roedd achos llys yn dechrau yn eu herbyn yn Llys y Goron Bryste yr wythnos nesa’.

Y gosb

Mewn achosion cynharach, roedd cyfanswm o chwech gwraig wedi cael eu dedfrydu – tair am weithredu ac annog y cynlluin a thair am ei annog.

Dyma’r dedfrydau arnyn nhw:

Laura Fox, 69 – naw mis o garchar.

Jennifer Smith-Hayes, 69 – naw mis o garchar.

Carol Chalmers, 68 – naw mis o garchar.

Sally Phillips, 34 – tri mis o garchar wedi’u gohirio.

Jane Smith, 50 – pedwar mis wedi’u gohirio.

Rita Lomas, 49 – pedwar mis a hanner wedi’u gohirio.

Roedd un wraig arall wedi’i chael yn ddieuog a’r rheithgor wedi methu â phenderfynu mewn achos arall.

Bydd barnwr yn penderfynu ar ddedfrydau Mary Nash, Susan Crane a Hazel Cameron ym mis Hydref.

Dyled

Mae Dave Gough o Gil-y-coed yn Sir Fynwy, sy’n dad i bedwar, wedi dweud ei fod wedi ei chael hi’n anodd ymdopi’n ariannol ers colli £3000 i’r cynllun yn 2009:

“Roedd o’n swnio’n wych, doedd dim ffordd i mi golli. Ges i wybod fod y cynllun yn cael ei gefnogi gan gyfreithwyr o Fryste a’i fod i gyd yn gyfreithlon.”