Alex Salmond
Ar ddiwrnod ola’r ymgyrchu cyn y refferendwm yfory, mae Alex Salmond wedi dweud mewn llythyr personol i’r etholwyr bod dyfodol yr Alban yn eu dwylo nhw.
Gyda dim ond oriau o ymgyrchu brwd ar ôl, mae Prif Weinidog yr Alban wedi gwneud apêl uniongyrchol i bleidleiswyr i ddefnyddio’r pŵer hwnnw i gefnogi annibyniaeth.
Gofynnodd i Albanwyr gamu’n ôl oddi wrth y dadleuon a’r ystadegau gwleidyddol sydd wedi diffinio’r ymgyrch ddwy flynedd o hyd, ac ymddiried ynddyn nhw eu hunain wrth bleidleisio.
Dywedodd Alex Salmond: “Mae’r siarad bron a dod at y terfyn. Bydd yr ymgyrchoedd wedi cael dweud eu dweud. Beth sydd ar ôl yw’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yma. Yr unig bobl sydd â phleidlais. Y bobl sy’n cyfrif…”
Dywedodd arweinydd yr SNP fod ganddo hyder y byddai pleidleiswyr yn anwybyddu’r honiadau sy’n cael eu cynhyrchu gan Downing Street. Straeon braw, meddai, “sy’n mynd fwyfwy anobeithiol a hurt.”
Ar y llaw arall, dywedodd y byddai pleidlais Ie yn dod â’r “cyfrifoldeb i weithio gyda’n gilydd a newid yr Alban i’r genedl y gall fod.”
Ychwanegodd fod yr ymgyrch wedi newid yr Alban am byth, gan ddod â “hyder, cred a grym” i gymunedau ar draws y wlad.
Mewn apêl derfynol, gofynnodd i Albanwyr i ystyried sut fyddan nhw’n teimlo fore ddydd Gwener wrth iddyn nhw benderfynu sut y byddan nhw’n pleidleisio ar ddiwrnod refferendwm “wirioneddol hanesyddol”.
Polau piniwn
Mae’r polau piniwn yn dal i awgrymu bod y canlyniad yn agos iawn – roedd tri arolwg barn neithiwr – Opinium i’r Daily Telegraph, ICM i’r The Scotsman, a Survation ar ran y Scottish Daily Mail – wedi rhoi’r ymgyrch Na rhywfaint ar y blaen gyda 52% i 48%.
Fe fydd Alex Salmond yn cyflwyno ei neges olaf i bobl yr Alban mewn rali yn Perth heno, tra bydd Alistair Darling, arweinydd yr ymgyrch Better Together, yn annerch digwyddiad arbennig – ‘Love Scotland Vote No’ – gyda’r cyn Brif Weinidog Gordon Brown.
Mae Better Together wedi dweud y bydd yn ymgyrchu drwy’r dydd a gydol y nos yn ei ymdrech i sicrhau pleidlais Na ddydd Iau.
Dywedodd Blair McDougall, cyfarwyddwr ymgyrch Better Together: “Mae ymgyrchwyr Better Together yn gweithio’n ddiflino i ledaenu’r neges y bydd newid gwell, cyflymach a mwy diogel i’r Alban gyda phleidlais Na, tra bod prosiect gwleidyddol Alex Salmond yn peryglu swyddi, pensiynau a’r Gwasanaeth Iechyd.”