Mae mwy na 50,000 o bobol wedi arwyddo deiseb sy’n galw am ymchwiliad annibynnol i “ohebu unochrog” y BBC ar refferendwm annibyniaeth yr Alban.
Yn ôl y 54,000+ sydd wedi llofnodi’r ddeiseb mae’r corff darlledu Prydeinig yn ochri hefo’r ymgyrch ‘Na’ ac maen nhw yn galw ar y rheoleiddiwr Ofcom i ymchwilio.
Cafodd y ddeiseb ei llunio pedwar mis yn ôl gan George Moore ar wefan 38 degrees, sy’n galluogi unrhyw un i greu deiseb am ddim.
Ond yn dilyn sylwadau gan Nick Robinson, gohebydd gwleidyddol y BBC, mae’r diddordeb ynddo wedi cynyddu gyda 30,000 o bobol ei lofnodi dros nos neithiwr, yn ôl George Moore.
“Mae awgrym bod y BBC yn cael ei ddefnyddio i ledaenu propaganda, nad yw’r corff yn ddiduedd neu ei fod yn cael ei orfodi i wasanaethu un agenda,” meddai’r datganiad sydd i’w weld ar y ddeiseb.
“Mae pobol sy’n talu am drwydded yn yr Alban yn haeddu cael llais. Rydym yn haeddu gohebu diduedd gan y cyfryngau.”
Mae golwg360 wedi gofyn i’r BBC am ymateb.