Mae arweinwyr y tair prif blaid wleidyddol yn yr Alban, sy’n gwrthwynebu annibyniaeth, wedi amlinellu rhagor o bwerau i’r wlad petai’r trigolion yn gwrthod annibyniaeth.

Fe wnaeth arweinwyr Llafur, y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol ymuno yng Nghaeredin ble wnaethon nhw roi addewid am ragor o bwerau.

Digwyddodd y cyhoeddiad wrth i Brif Weinidog Cymru Carwyn Jones ymweld a’r Alban heddiw i roi hwb i’r ymgyrch Na.

Amserlen

Ddoe, roedd y cyn Brif Weinidog Gordon Brown wedi amlinellu ei amserlen ar gyfer trosglwyddo rhagor o bwerau i’r Alban, gan ddweud y byddai gwaith yn dechrau ar hynny yn syth ar ôl y refferendwm wythnos nesa.

Dywedodd arweinydd y Blaid Lafur yn yr Alban, Johann Lamont, y byddai hi “wrth ei bodd” yn gweld y pwerau ychwanegol yn cael eu trosglwyddo, hyd yn oed os ydyn nhw’n dod gan y Blaid Geidwadol.

Meddai Johann Lamont: “Rydyn ni i gyd wedi cael dadleuon gwleidyddol, dyna sut mae gwleidyddiaeth. Ond lle allwn ni gytuno, rydym yn cytuno, a’r hyn sy’n bwysig yw rhoi sicrwydd i bobl yr Alban y bydd mwy o bwerau.

“Beth bynnag fydd yn digwydd, rydym yn gwybod y bydd mwy o bwerau i Senedd yr Alban.

“Mae hynny’n ymrwymiad pwysig gan bob un ohonom.”

Arolwg barn newydd

Mae arolwg barn newydd a gyhoeddwyd gan TNS heddiw yn dangos bod gan yr ymgyrchoedd Ie a Na gefnogaeth o 41% yr un ymysg y rhai sy’n sicr o bleidleisio tra bod arolwg barn gan YouGov ddeuddydd yn ôl wedi rhoi’r ymgyrch Ie ar y blaen am y tro cyntaf.

Ond gydag ychydig dros wythnos i fynd tan y refferendwm, mae Prif Weinidog yr Alban Alex Salmond wedi wfftio’r amserlen newydd gan bleidiau San Steffan fel “llwgrwobrwyo” oherwydd bod yr ymgyrch Ie yn ennill tir ar lawr gwlad.