(llun:PA)
Mae cyflogau Aelodau Seneddol yn debygol iawn o godi o £67,000 i £74,000 y flwyddyn o fis Mai nesaf ymlaen.
Mae hyn yn gyfystyr â chodiad cyflog o 10% ar adeg pan mae gweithwyr eraill y sector cyhoeddus wedi gorfod dygymod ag uchafswm o 1% o gynnydd.
Dywed prif weithredwr newydd yr Awdurdod Annibynnol Safonau Seneddol – y corff sy’n gyfrifol am bennu cyflogau Aelodau Seneddol – ei fod yn benderfynol o weld argymhelliad a wnaed ganddyn nhw’r llynedd yn cael ei weithredu.
“Ni ddylid talu ‘swm gybyddlyd’ i wleidyddion,” meddai Marcial Boo.
“Mae job Aelod Seneddol yn un bwysig. “Mae yna lawer iawn o weithwyr proffesiynol yn y bywyd cyhoeddus a’r sector preifat sy’n ennill llawer iawn mwy na hynny – felly nid yw’n swm afresymol o arian o gwbl.”
‘Annerbyniol’
Pan wnaed yr argymhelliad i ddechrau, dywedodd holl arweinwyr y prif bleidiau y byddai codiad cyflog o’r fath yn gwbl annerbyniol – sylw sydd wedi cael ei ailadrodd gan y Canghellor George Osborne heddiw.
Fe fydd yn ofynnol i’r Awdurdod Annibynnol Safonau Seneddol gynnal un adolygiad arall i’r argymhelliad ar ôl yr etholiad, ond dywed Marcial Boo nad ydyn nhw’n debyg o newid y penderfyniad.