William Pooley
Mae’r person cyntaf o Brydain i gael ei heintio gan y firws Ebola, sydd wedi lladd dros 1,500 o bobol yng ngorllewin Affrica, wedi gadael yr ysbyty yn Llundain.

Cafodd William Pooley o Suffolk, sy’n 29 oed, ac yn nyrs gwirfoddol, ei gludo yn ôl i Brydain ar 24 Awst, wedi iddo gael ei heintio gan y firws yn Sierra Leone.

Bu’n derbyn triniaeth mewn uned arbennig yn Ysbty’r Royal Free yng ngogledd Llundain ac mae wedi dweud bod y gofal a gafodd yno “o’r radd flaenaf.”

Dywedodd hefyd fod yna “fyd o wahaniaeth” rhwng y gofal a gafodd a’r gofal sy’n cael ei roi i gleifion Ebola yn Affrica.

“Roeddwn i’n poeni fy mod am farw,” meddai, “ond dwi wedi bod yn lwcus iawn.”