Rhieni Ashya King, Brett a Naghmeh yn cael eu cyfweld gan y BBC ar ol gadael y carchar Llun: BBC/PA
Mae rhieni Ashya King, y bachgen 5 oed sy’n dioddef o ganser, wedi dweud mai “gweddïo a chrio” oedd yr unig beth oedden nhw’n gallu ei wneud yn y carchar.
Cafodd y cwpl eu rhyddhau o’r carchar yn Sbaen neithiwr, ar ôl cael eu harestio ddydd Sadwrn wedi iddyn nhw fynd ag Ashya o Ysbyty Cyffredinol Southampton yn groes i gyngor meddygol.
Wrth baratoi i weld eu mab am y tro cyntaf ers pum diwrnod, dywedodd Brett King wrth y BBC:
“Mae ‘nghalon i’n torri. Rwyf eisiau gweld wyneb fy mab. Yr oll oeddwn i’n ei wneud oedd crio a chrio. Beth arall oeddwn i’n gallu ei wneud?
“Faswn i ddim yn dweud fy mod i’n flin. Dyw hynny ddim yn dod mewn iddi ar hyn o bryd. Mae gen i’r teimladau yma o fod eisiau gweld fy mab gymaint.”
Ac wrth ddisgrifio’r teimlad o gael ei gwahanu oddi wrth ei mab, dywedodd Naghmeh King:
“Roeddwn i’n gweddïo mod i am gael gweld fy mab unwaith eto. Doedd dim llawer allwn ni ei wneud – dim ond crio a gweddïo.”