Mae corff deifiwr o Abertawe ddiflannodd ddwy flynedd yn ôl wedi cael ei ddarganfod oddi ar arfordir De Ddyfnaint.
Diflannodd Neal Hughes o Dreforys yn ystod taith bysgota yn 2012, pan aeth chwech o bobol i weld gweddillion y llong ‘Benton Castle’ oedd wedi cael ei suddo yn 1916.
Mae corff Neal Hughes bellach wedi cael ei ddychwelyd adref.
Mae’r teulu wedi dweud bod y newyddion yn golygu eu bod nhw’n ail-fyw’r golled, ond bod modd iddyn nhw ddechrau trefnu ei angladd.