Boris Johnson
Mae Maer Llundain wedi ymateb yn danllyd i gyhoeddiad na fydd ei gynllun i adeiladu maes awyr ar lannau’r afon Tafwys yn cael ei gymeradwyo.
Roedd Boris Johnson yn arwain cynllun oedd yn galw am adeiladu maes awyr newydd gyda phedair rhedfa ger yr Afon yn nwyrain Llundain.
Ond fe ddywedodd y Comisiwn Meysydd Awyr, wedi ei arwain gan Howard Davies, fod mwy o anfanteision na manteision i’r syniad.
Mae cynlluniau eraill yn y pair i ymestyn maes awyr Heathrow yn Llundain ac i ychwanegu rhedfa at faes awyr Gatwick yng Ngorllewin Sussex.
Penderfyniad ‘byr yr olwg’
Dywedodd Boris Johnson: “Mewn penderfyniad byr yr olwg, mae’r comisiwn wedi rhwystro’r ddadl rhag codi stem am tua hanner canrif arall ac wedi cyfyngu eu gwaith i’r rhestr hir o adroddiadau a ffeiliau sy’n hel llwch ar silff yn Whitehall.
“Nid yw ymestyn Gatwick yn ddatrysiad tymor hir ac mae’n rhaid i Howard Davies esbonio i bobol Llundain sut ar y ddaear mae e’n meddwl bod ymestyn Heathrow, a fyddai’n creu lefelau anghredadwy o sŵn a llygredd, yn well syniad na chael maes awyr newydd fyddai’n creu swyddi.
“Mae’n parhau i fod y datrysiad gorau ac rwy’n hollol sicr y bydd yn cael ei ddewis yn y pen draw.”
‘Ateb anghywir’
Er hyn, dywedodd Howard Davies:
“Nid ydym wedi cael ein perswadio bod maes awyr mawr ar lannau’r Tafwys yw’r ateb cywir i anghenion cysylltu Llundain a Phrydain.
“Rydym yn cydnabod yr angen am ymestyn y gwasanaeth, ond yn credu y dylai fod yn rhan o system effeithiol o feysydd awyr cystadleuol i gyrraedd anghenion marchnad fel Llundain.”