Mae’r canwr John Jones wedi ymddiheuro am wneud “sylwadau gwirion” ar Twitter dros y penwythnos.
Roedd hanner y ddeuawd canu gwlad poblogaidd, John ac Alun, sydd â rhaglen wythnosol ar Radio Cymru, wedi gwneud y sylw am bobl o Bacistan mewn ymateb i drydar gan y cynhyrchydd Dyl Mei.
Meddai llefarydd ar ran BBC Cymru fod ei sylw yn “gwbl annerbyniol”.
Cefndir
Dros y penwythnos, roedd Dyl Mei wedi trydar: “Mynd yn flêr yn Pakistan yndi? Byd ‘ma yn llanast llwyr ar y foment.”
Dydd Sul, wrth ymateb i’r neges, dywedodd John Jones: “Gormod ohonynt yn y wlad yma beth bynnag!!!”
Ymddiheuriad
Er i Golwg 360 gysylltu â John Jones am sylw, fe wnaeth o ymddiheuro ar wefan Twitter neithiwr, gan ddweud: “Nes i sylwadau gwirion y dydd o’r blaen – dwi’n ymddiheuro am hyn, a ni wneith ddigwydd byth eto!”
Ymateb y BBC
Dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru: “Ry’ ni’n ymwybodol o’r sylwadau wnaeth John ar ei gyfrif trydar personol.
“Ry’n ni wedi siarad ag e ac wedi dweud yn glir wrtho fod ei sylwadau yn gwbl annerbyniol. Mae’n derbyn hynny’n llwyr ac ry’n ni’n falch o weld ei fod wedi ymddiheuro.”