Isaac Nash
Bydd timau achub yn penderfynu’r bore ma os fydden nhw’n parhau i chwilio am y bachgen 12 oed Isaac Nash, sydd wedi bod ar goll oddi ar arfordir gorllewinol Ynys Môn ers dydd Gwener.

Roedd Isaac Nash, o Huddersfield yn Swydd Efrog, a’i frawd bach Xander Nash, 10, ar wyliau gyda’u teulu pan gafodd y ddau eu llusgo i’r môr gan donnau garw gerllaw Aberffraw.

Cafodd Xander Nash ei achub o’r dŵr, ond fe ddywedodd Adam Nash, tad y ddau frawd, nad oedd o wedi medru achub Isaac Nash.

Cofio

Neithiwr, fe gafodd gwasanaethu coffa ei gynnal yn Huddersfield i gofio amdan y bachgen ifanc ac mae teyrngedau wedi cael eu rhoi iddo ym mhapur newydd yr Huddersfiel Daily.

Yn ôl y papur, dywedodd ei nain, Suzanna Lewis: “Roedd o’n llawn bywyd ac yn medru trosglwyddo ei egni i i chithau yn feddyliol ac yn gorfforol. Roedd yn caru pob math o chwaraeon, yn wych yn chwarae pêl-droed, criced a taekwondo, yn paratoi i wneud ei arholiad karate belt du yn 13 oed, ac wedi ymuno hefo clwb rhedeg.

“Mae’n rhaid i ni gofio ei fod o, yn ei eiliadau olaf, wedi bod yn ymladd ton ar ôl ton i gael at y lan ac mae’n rhaid i ni geisio gwneud yr un peth. Roeddem yn ei garu yn fawr iawn.”

Ac fe ddywedodd y clwb taekwondo, Phantom Tiger Taekwondo o Huddersfield:
“Gyda thristwch mawr yr ydym yn cyhoeddi marwolaeth un o’n haelodau, Isaac Nash, 12.