Bydd mwy o bwerau i'r heddlu yn ffiniau'r DU
Wrth annerch Aelodau Seneddol prynhawn ma, dywedodd David Cameron bod miloedd o ddinasyddion Ewropeaidd wedi mynd i ymladd yn Irac a Syria, gan greu bygythiad difrifol iawn i Brydain.

Yn dilyn cyfarfod o’r Cyngor Ewropeaidd ddydd Sadwrn, bu’r Prif Weinidog yn amlinellu ymateb y Llywodraeth yn y Senedd.

Fe fydd y mesurau’n cynnwys gorchmynion llymach ar bobl sy’n cael eu hamau o fod yn derfysgwyr, a phwerau newydd i’r heddlu yn ffiniau’r DU i gadw pasborts rhai sy’n cael eu hamau o ymladd dramor.

Mae disgwyl i bwerau cryfach ynglŷn ag adleoli rhai sy’n cael eu hamau o fod yn derfysgwyr hefyd gael eu hail-gyflwyno, meddai David Cameron.

Ychwanegodd y bydd y Llywodraeth yn parhau i asesu pa fesurau fyddai’n eu cymryd yn Irac a Syria, gan gynnwys cymorth dyngarol ac, o bosib, camau milwrol.

‘Barbariaeth’

Dywedodd wrth ASau: “Rydym ni i gyd wedi cael ei synnu a’n brawychu gan y barbariaeth rydym wedi ei weld yn Irac dros yr haf – Mwslimiaid yn cael eu lladd gan Fwslimiaid, lleiafrifoedd crefyddol fel Cristnogion a’r gymuned Yazidi, yn cael eu herlid; merched yn cael eu treisio a’u cadw’n gaeth ac, wrth gwrs, dienyddio’r newyddiadurwr Americanaidd James Foley, gyda llais rhywun sy’n ymddangos yn derfysgwr o Brydain, ar y fideo.”

Ychwanegodd bod o leiaf 500 wedi teithio o Brydain i ymladd yn Syria, gan gynnwys 700 o Ffrainc, 400 o’r Almaen a rhagor o America, Canada, Awstria, Denmarc, Sbaen, Sweden, Gwlad Belg, yr Iseldiroedd ac Awstralia.
Fe fyddai pob un o’r gwledydd Ewropeaidd yn cymryd y camau angenrheidiol i fynd i’r afael a’r broblem, meddai David Cameron wrth y Senedd.