Mae bachgen 12 oed wedi marw wedi cael ei daro gan lori sgip ar groesfan yn ne-orllewin Lloegr.

Fe ddigwyddodd y ddamwain ger Countess Wear, Dyfnaint, am 3.10yp ddoe.

Fe ddaeth nifer o aelodau o’r cyhoedd i helpu’r plentyn, cyn i’r parafeddygon gyrraedd.

Ond bu farw’r bachgen yn dilyn cael ei gludo i Ysbyty Brenhinol y Devon and Exeter.