Alex Salmond
Mae’r pôl piniwn diweddara’n awgrymu bod y mwyafrif o blaid ‘Na’ yn refferendwm yr Alban wedi ei dorri i’r hanner.
Yn ôl yr arolwg ym mhapur y Daily Mail, dim ond chwe phwynt yw’r bwlch bellach ar ôl perfformiad cryf Alex Salmond, arweinydd yr ymgyrch ‘Ie’, yn y ddadl deledu ddiweddara’.
Mae’r pôl yn dweud bod 47.6% o atebwyr am bleidleisio ‘Na’ a 41.6% yn dweud ‘Ie’.
Mae mwy na 10% yn dweud eu bod heb benderfynu eto.
O ddiystyru’r rheiny, y bwlch yw 53 – 47.
‘Dim ond tri phwynt i fynd’
Yn y pôl diwetha’ gan yr un cwmni, roedd y bwlch y mis diwetha’ yn 13 pwynt a’r ddadl deledu sy’n cael y clod, gyda chwarter yr atebwyr yn dweud eu bod yn fwy tebygol o bleileisio ‘Ie’ o ganlyniad i honno.
Mae’r ymgyrch ‘Ie’ wrth eu bodd gyda’r arolwg, sy’n awgrymu yr un math o symudiad i gyfeiriad ‘Ie’ ag a gafodd plaid annibyniaeth yr SNP tua diwedd yr ymgyrch yn yr etholiadau diwetha’ i Senedd yr Alban.
“Mae Ie wedi sicrhau swing o bedwar pwynt mewn llai na thair wythnos a dim ond swing o dri phwynt arall sydd ei angen i ennill,” meddai Blair Jenkins, Prif Weithredwr yr Ymgyrch Ie.
“Mae’r pôl yn tanlinellu’r ffaith fod y canlyniad yn y fantol a bod y gefnogaeth i Ie yn parhau i dyfu, tra bod agwedd negyddol barhaus yr ymgyrch Na yn golygu ei bod yn dal i golli tir.”
Addo a bygwth
Yn y cyfamser, mae’r addewidion a’r bygythiadau wedi parhau gan y naill ochr a’r llall.
- Fe fyddai teuluoedd yn gallu arbed mwy na £5,000 y flwyddyn ar gostau gofal plant, yn ôl Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond. Fe fyddai llywodraeth annibynnol yn cynnig gofal am ddim i filoedd o blant – yn ôl Alex Salmond, fe fyddai 240,000 yn elwa erbyn diwedd yr ail lywodraeth.
- Ar y llaw arall, mae cwmni o werthwyr tai wedi rhybuddio y gallai annibyniaeth gael effaith negyddol ar y farchnad yn yr Alban. Mewn adroddiad i’r ymgyrch Na, mae cwmni Strutt and Parker yn awgrymu y gallai ansicrwydd tros arian arwain at ostyngiad mewn prisiau a chynnydd yng nghost morgeisi.