Llys Ynadon Wrecsam
Fe fydd gwraig ifanc yn ymddangos o flaen ynadon Wrecsam heddiw wedi ei chyhuddo o gynnau tân yn fwriadol gyda’r bwriad o beryglu bywyd.
Fe gafodd ei chyhuddo’n ffurfiol neithiwr ar ôl cael ei harestio yn union wedi’r tân yn Rhiwabon yn gynnar fore Mercher.
Mae enw’r wraig 30 oed yn hysbys ond heb gael ei gyhoeddi eto am resymau cyfreithiol.
Roedd cymdogion wedi gorfod helpu dau blentyn – merch 10 oed a bachgen 7 oed – i ddianc o’r tŷ yn Rhodfa Wynn yn y pentre’.
Fe fydd Heddlu Gogledd Cymru yn gofyn i’r llys am gadw’r wraig yn y ddalfa.