Shaun Wright
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Swydd Efrog, Shaun Wright, wedi gadael y Blaid Lafur ond mae’n mynnu na fydd yn gadael ei swydd.

Fe ildiodd Shaun Wright ei aelodaeth o’r blaid ar ôl i Lafur fygwth ei wahardd oni bai ei fod yn camu o’i swydd yn sgil adroddiad damniol i gam-drin plant yn Rotherham.

Mae wedi wynebu pwysau cynyddol dros y dyddiau diwethaf i ymddiswyddo am ei fod yn gyfrifol am wasanaethau plant ar gabinet Cyngor Rotherham rhwng 2005 a 2010.