Mae Heddlu Gwent wedi arestio dau ddyn mewn cysylltiad â gwrthdrawiad yng Nghaerleon nos Sadwrn.
Roedd Vauxhall Corsa lliw aur wedi gwrthdaro a thri o gerddwyr ar Heol Pontir, Caerleon tua 9.05yh nos Sadwrn, 23 Awst.
Cafodd dyn 79 oed, dynes 71 oed a dyn 63 oed anafiadau difrifol yn y gwrthdrawiad. Maen nhw mewn cyflwr sefydlog yn Ysbyty Brenhinol Gwent.
Roedd gyrrwr y Corsa, a’r ferch oedd yn teithio gydag ef, wedi gadael y safle cyn i’r heddlu gyrraedd.
Mae dyn 20 oed o Gaerleon wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi anafiadau difrifol drwy yrru’n beryglus, ac ar amheuaeth o fethu ag aros ar ôl damwain ffordd a methu ag adrodd am y ddamwain wrth yr heddlu.
Mae’n cael ei gadw yn y ddalfa.
Cafodd dyn 41 oed o Gasnewydd ei arestio ar amheuaeth o wyrdroi cwrs cyfiawnder a rhoi cymorth i droseddwr. Mae wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth yr heddlu tra bod eu hymchwiliadau’n parhau.
Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un a welodd y ddamwain neu a welodd y Corsa yn cael ei yrru cyn y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw ar 101.