Mikaeel Kular, a fu farw o'i anafiadau ym mis Ionawr (Llun: PA)
Mae dynes o Gaeredin wedi cael ei charcharu am 11 mlynedd am ladd ei mab 3 oed a chuddio ei gorff mewn coedwig.
Roedd Mikaeel Kular wedi marw ddeuddydd ar ôl cael ei guro gan ei fam Rosdeep Adekoya ym mis Ionawr.
Ar ôl cael hyd i’w gorff ar lawr eu cartref, fe wnaeth ei lapio a’i roi mewn ces dillad a gyrru 25 milltir i Kirkaldy, i’w guddio mewn coedwig.
Dywedodd wrth yr heddlu ei fod ar goll, a bu cannoedd o bobl leol yn helpu chwilio amdano.
Yn wreiddiol, roedd Adekoya, 34 oed, wedi cael ei chyhuddo o lofruddiaeth, ond plediodd yn euog y mis diwethaf i gyhuddiad llai o ddynladdiad beius, ac i gyhuddiad o geisio llesteirio cyfiawnder.
Cafodd ei dedfrydu i 11 mlynedd o garchar yn yr Uchel Lys yng Nghaeredin heddiw.