Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond
Rhaid i Alex Salmond ennill buddugoliaeth glir yn yr ail ddadl deledu rhyngddo ac Alistair Darling heno i gael unrhyw obaith am bleidlais Ie ymhen tair wythnos.

Dyna yw barn arbenigwr blaenllaw ar ymgyrch y refferendwm ar annibyniaeth yr Alban, yr Athro John Curtice o Brifysgol Ystrad Clud.

Dywed y byddai ‘gornest gyfartal’ ar y llaw arall yn ddigon i’r cyn-ganghellor Alistair Darling heno.

Yn ôl dadansoddiad o’r chwe arolwg barn diwethaf, mae’r ochr Na ar y blaen o 57 y cant i 43 y cant,  sefyllfa nad yw wedi newid llawer ers mis Mawrth.

Y farn gyffredinol oedd i Alistair Darling, yn groes i’r disgwyl, gael y gorau ar brif weinidog yr Alban yn y ddadl deledu gyntaf. Ar y llaw arall, does dim tystiolaeth fod hynny wedi cael unrhyw effaith ar yr arolygon barn.

Pynciau’r ddadl

Arian – mae disgwyl i Alistair Darling ddal i bwyso ar Alex Salmond  i esbonio’i gynlluniau ar gyfer arian yr Alban petai Lloegr yn gwrthod undod ariannol o dan y bunt.

Y Gwasanaeth Iechyd – mae’r SNP wedi bod yn dadlau’n gynyddol dros yr ychydig wythnosau diwethaf mai pleidlais o blaid annibyniaeth yw’r unig ffordd o achub y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn Alban.

OIew – parhau mae’r dadlau rhwng y ddwy ochr, a rhwng gwahanol arbenigwyr yn y maes, ynghylch union werth olew Môr y Gogledd i’r Alban.

“Yr un pwnc a allai wneud gwahaniaeth yw a fyddai’r Alban ar ei hennill yn economaidd ar ôl pleidlais Ie neu Na,” meddai’r Athro Curtice.

“Wnaeth y naill na’r llall ohonyn nhw fynd i’r afael â’r cwestiwn yma yn y ddadl gyntaf, gan i’r ddau ganolbwyntio ar y materion yr oedden nhw fwyaf cyffyrddus yn eu cylch.

“Gyda’r refferendwm ar 18 Medi ond tair wythnos i ffwrdd, mae angen i Alex Salmond wneud rhywbeth i newid y gêm yn llwyr heno.”

Bydd y ddadl yn cael ei darlledu’n fyw am 8.30 ar BBC2 heno.