Alex Salmond
Fe fyddai defnyddio’r bunt heb fod yn rhan o undeb ariannol yn ateb da i Alban annibynnol, yn ôl adroddiad gan gorff polisi ariannol.

Fe allai hynny fod yn well ateb nag aros yn y Deyrnas Unedig ac yn well hefyd na gweithredu o dan Fanc Lloegr, meddai Sefydliad Adam Smith.

Fe allai’r adroddiad fod yn bwysig yn y ddadl am annibyniaeth, gan roi dadl newydd i arweinydd yr ymgyrch ‘Ie’, y Prif Weinidog Alex Salmond.

Dan bwysau

Mae wedi dod dan bwysau i gyhoeddi beth fyddai ei ail ddewis ar ôl i Lywodraeth Prydain a’r gwrthbleidiau ddweud na fydden nhw’n caniatáu i Alban annibynnol fod yn rhan o drefn y bunt.

Yn awr, mae’n bosib y bydd Alex Salmond yn dweud yn ffurfiol mai defnyddio’r bunt heb gytundeb fydd yr ail ddewis hwnnw.

Yn ôl Sefydliad Adam Smith, fe fyddai hynny’n lleihau’r duedd o gymryd risg ac yn arwain at fwy o gystadleuaeth ym myd bancio.

Roedd profiad gwledydd De America o ddefnyddio’r ddoler Americanaidd heb gytundeb yn dangos y gallai system fancio wneud yn well heb fanc canolog y tu cefn ididyn nhw, meddai’r adroddiad.