Enghraifft o'r deunydd darllen Saesneg
Mae canlyniadau profion darllen a rhifo i blant rhwng 5 ac 14 oed yng Nghymru yn dangos pa mor ddrwg yw effaith tlodi, meddai arweinydd un o undebau’r athrawon.

Maen nhw hefyd yn dangos yn glir beth yw effaith chwalu’r hen ddiwydiannau ar gymunedau yn y Cymoedd, meddai Chris Howard, Cyfarwyddwr Gweithredol NAHT Cymru.

Yr hen ardaloedd glo oedd yn sgorio waetha’ yn y profion llythrennedd a rhifedd a gafodd eu cyhoeddi ddoe gan Lywodraeth Cymru.

“Mae’r gyfres lawn gyntaf o brofion llythrennedd a rhifedd i ddisgyblion dan 14 oed yng Nghymru’n dangos yn gliriach na dim beth yw effaith parhaus ac endemig tlodi a dad-ddiwyniannu ar gyfleoedd bywyd pobol ifanc yng Nghymru,” meddai.

“Mae’n boenus o glir fod y canrannau ucha’ o ddisgyblion gyda’r sgoriau isa’ mewn darllen yng ngyn ardaloedd glo Cymru. Mapiwch y sgoriau hyn ar gyfer ysgolion cyfrwng Saesneg a byddwch yn mapio cyni cymdeithasol yng Nghymru.”

‘Diystyr’

Ond mae llefarydd addysg y Democratiaid Rhyddfrydol, Aled Roberts, wedi cyhuddo’r Llywodraeth o gyhoeddi ffigurau diystyr.

Doedd dim modd cymharu ffigurau eleni gyda rhai y llynedd er mwyn dangos a oedd gwelliant wedi bod ai peidio, meddai.

“Rhaid i Lywodraeth Cymru edrych yn galed ar beth y mae’r profion hyn yn ei gyflawni mewn gwirionedd a beth sy’n cael ei wneud gyda’r wybodaeth sy’n cael ie chasglu.”

Fe ddywedodd fod angen addasu’r drefn er mwyn cael canlyniadau “mwy addas ac ystyrlon”.