Gwenda Thomas - crynho'r gwario
Mae £8.8 miliwn yn cael ei wario ar 70 o brosiectau i wella gwasanaethau gofal i bobol oedrannus yng ngorllewin a chanolbarth Cymru, yn ôl y Llywodraeth.
Mae hynny’n cynnwys creu timau ar y cyd o weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn gwella ymateb brys a rhai gwasanaethau eraill.
Mae’r arian yn rhan o’r Gronfa Gofal Canolraddol gwerth £50 miliwn a gafodd ei chytuno rhwng y Llywodraeth a Phlaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol adeg trafod cyllideb Llywodraeth Cymru.
Yn ôl y Dirprwy Weinidog Gofal Cymdeithasol, Gwenda Thomas, y prif nod yw helpu pobol oedrannus i “gadw eu hannibyniaeth ac aros yn eu cartrefi”.
Rhai o’r cynlluniau
Fe fydd hi’n ymweld ag un o’r prosiectau yng Nghrymych yn Sir Benfro heddiw – mae’r £8.8 miliwn yn cael ei wario yn hen siroedd Dyfed a Phowys.
Ymhlith y prosiectau eraill mae cynlluniau i wella trafnidiaeth o ysbytai i’r cartref, mwy o wasanaethau symudol i gadw pobol o’r ysbyty a mân waith cynnal a chadw a all gadw pobol oedrannus yn eu cartrefi.