Mae pedwar o bobol wedi’u harestio ar amheuaeth o fod yn rhan o gynllun i anfon bomiau trwy’r post at dargedau yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Ymhlith y targedau yr oedd nifer o swyddfeydd recriwtio’r lluoedd arfog.

Fe gafodd y ddau ddyn, 35 a 46, a’r ddwy ddynes, 21 a 44, eu haretio yn ninas Derry, a’u hebrwng i swyddfa troseddau difrifol Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon yn Antrim.

Maen nhw’n dal i gael eu holi ar amheuaeth o anfon dyfeisiadau ffrwydrol trwy’r post i swyddfeydd recriwtio’r lluoedd arfog yn Rhydychen, Brighton, Caergaint, Aldershot, Reading a Chatham, ac i ganolfan siopa Queensmere yn Slough.

Wnaeth yr un o’r dyfeisiadau ffrwydro.