Mae’r heddlu wedi arestio dyn mewn cysylltiad a marwolaeth mewnfudwr mewn bocs cargo yn Nociau Tilbury.

Fe gafodd y dyn 34 oed o Limavady, Gogledd Iwerddon, ei arestio toc wedi hanner dydd heddiw ar briffordd yr A1 yn Banbridge. Mae’n cael ei holi ar amheuaeth o ddynladdiad ac o gael y mewnfudwyr yn anghyfreithlon i’r Deyrnas Unedig.

Fe gafwyd Meet Singh Kapoor, 40, o Afghanistan yn farw y tu mewn i’r bocs yn Essex ddydd Sadwrn.

Mae’r 34 o bobol a deithiodd am 18 awr yn y bocs cargo, yn dod o Kabul yn Afghanistan.