Mae gwersyll wedi’i godi yn Swydd Gaerhirfryn, er mwyn protestio yn erbyn cwmni ffracio sy’n bwriadu cynnal archwiliad o’r ardal.
Mae gwersyll ‘No Dash for Gas – Reclaim The Power’ yn ardal Fylde yn agos iawn at ddau safle drilio gan gwmni Cuadrilla.
Mae trefnwyr y brotest yn dweud eu bod yn disgwyl hyd at 1,000 o bobol fod yn rhan o’r gwersyll dros y chwe diwrnod nesa’ er mwyn protestio’n erbyn y cwmni sy’n gobeithio dod o hyd i nwy sial dan ddaear.
Y llynedd, fe fu Reclaim The Power yn rhan o wersyll yn Balcombe, Sussex, a oedd hefyd yn protestio yn erbyn bwriad Cuadrilla i ddrilio am nwy dan ddaear yn y fan honno.
Fe gafodd nifer o bobol eu harestio am iddyn nhw rwystro loriau rhag mynd a dod o’r safle.
Mae Cuadrilla, ar y llaw arall, yn creu fod basn y Bowland yn Swydd Gaerhirfryn yn ffynhonnell dda o nwy sial.